Cynigion

Galwad am Bapurau

Bydd y gynhadledd hon yn archwilio rôl cyfieithu yn cyfryngu cysylltiadau â barddoniaeth dros yr Iwerydd. O ddeall yr Iwerydd fel parth amlieithog, a barddoniaeth o’r Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau yng nghyd-destunau ehangach Ewrop a chyfandir America, bydd yn herio’r rhagdybiaeth bod parth yr Iwerydd wedi’i chyfanheddu’n llwyr gan farddoniaeth Saesneg, fel y dychmygir, er enghraifft, mewn diwylliant o wobrau llenyddol “rhyngwladol” sy’n agored i weithiau wedi’u hysgrifennu’n Saesneg yn unig. Mae hylifedd ymddangosiadol y parth hwn wedi’i lunio gan allgau ac anghydraddoldeb ei orffennol trefedigaethol, ac mae hefyd yn celu gwahaniaethau real iawn o ran profiad diwylliannol a gwleidyddiaeth gyfoes yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig. Beth yw rôl cyfieithu barddoniaeth yn y cyd-destun hwn?

Mae A Transnational Poetics (2009) Jahan Ramazani yn dadlau dros ddehongli barddoniaeth fel cyfrwng sydd, uwchlaw eraill, yn teithio'n ddychmygus, gan mai potensial gwerthfawr barddoniaeth yw creu parthau newydd o ddisgẃrs ryngddiwylliannol trwy ei ‘radial connections, imaginative leaps, and boundary-crossing ventures.’ Er bod sylwadau Ramazani yn cyfeirio at farddoniaeth sydd wedi’i hysgrifennu yn Saesneg, gall cyfieithu barddoniaeth ysgogi dulliau pellach o gydgyfarfod yn drawswladol. Gall ddatgelu gwerthoedd sydd wedi’u hamddiffyn yn glòs, fel mae Johannes Göransson yn dadlau yn Transgressive Circulation (2018), gan ddangos sut, yn yr Unol Daleithiau, mae’r gred bod barddoniaeth yn fynegiant o fewnoldeb wedi dod yn rhan o hyrwyddo diwylliant byd-eang hegemonig. Yn wir, gellir lleoli'r symudiad at farddoneg “gyfieithiadol” a amlinellir gan Apter (2005) a Perloff (2010) o fewn troad trawsddiwylliannol ac amlieithog ehangach. Fel y nodir yn rhifyn ‘Transnational/Translational’ y cyfnodolyn Tripwire (2015), mae barddoneg gyfieithiadol yn ymwrthod â thrais hiliol, unffurfiol globaleiddio neoryddfrydol a ddeellir fel “cyfnewid” neu “gysylltedd.” Bu damcaniaethu am y gwrthdrawiadau hyn gan feirdd sy'n wyliadwrus o gyfieithu fel technoleg a all ddyrchafu modelau echdynnol, trefedigaethol, megis Heriberto Yépez, sy’n gweld cyfieithu fel cyfrwng o echdynnu trefedigaethol (2007) ac fel maes cad trawswladol (2017). Mae cyfieithu hefyd yn faes lle gellir herio'r modelau hyn: yn Translation is a Mode=Translation is an Anti-neocolonial Mode (2020) mae Don Mee Choi yn tynnu sylw at barthau o ffrithiant sy’n datffurfio ac yn peri anghyseinedd yn y gororau hynny sy'n gwahanu ieithoedd a chenedl-wladwriaethau. Ar yr un pryd, mae Göransson yn dangos sut y gall cyfieithu agor llwybr at ail-ddychymygu 'corff estron' y testun a gyfieithwyd. Fel y disgrifir yng nghofiant y cyfieithydd Kate Briggs, This Little Art (2017), mae dulliau arbrofol o gyfieithu yn herio'r syniad o 'ffyddlondeb', ac yn hytrach yn pwysleisio amodoldeb, llithriadau, aflonyddwch, a gweadau “gwall” fel ffynhonnell gynhyrchiol o ystyr penagored. O’u dwyn ynghyd, ymddengys bod y tueddiadau hyn yn arwyddo diwedd paradeimau rhyngddiwylliannol hŷn o gyfieithu ar gynsail o gyd-ddealltwriaeth, ieithoedd annibynnol sydd wedi’u plismona gan derfynau cenedlaethol neu ddiwylliannol, a'r motiff llywodraethol o ffyddlondeb at y gwreiddiol.

Beth sydd yn y fantol felly i rwydweithiau cyfieithu dros yr Iwerydd ar hyn o bryd, at y dyfodol ac o ran eu hanes ers yr ail ryfel byd, yng ngoleuni'r datblygiadau hyn mewn barddoneg feirniadol? Mae cysylltiadau rhwng beirdd yn Ewrop ac America, yn enwedig rhai sydd o draddodiadau modernaidd ac arbrofol, wedi arwain at greu cymunedau sydd wedi esgor ar ddylanwad cynhyrchiol i’r ddau gyfeiriad, er bod effeithiau hynny wedi bod yn anghymesurol a’r gydnabyddiaeth yn amrywiol. Sut gall y cyfnewidiadau amlieithog hyn helpu i ail-fframio llenyddiaethau cenedlaethol? Mae gwyliau barddoniaeth rhyngwladol, yn enwedig ar draws Ewrop ac America Ladin, wedi modelu gweledigaeth iwtopaidd o gyfnewid rhyngwladol trwy gyfrwng digwyddiadau byw sy'n canolbwyntio ar gyfieithu barddoniaeth, sy’n cyferbynnu â’r pwyslais mwy masnachol sy’n nodweddiadol o wyliau llenyddol cyfrwng Saesneg. Beth sydd yn y fantol o ran digwyddiadau o'r fath a'r cymunedau maent yn esgor arnynt? Sut gallent esblygu yn awr yn dilyn y pandemig ac yn sgil pryderon ecolegol cynyddol?

Gwahoddir cyfraniadau a fydd yn ein tywys ar hyd llwybrau newydd o drafodaeth feirniadol a chyfathrebu am farddoniaeth, ei chyfieithu, ei hymarfer a'i chylchredeg. Wrth edrych ar sut mae barddoniaeth mewn gwahanol ieithoedd yn tramwyo parth yr Iwerydd, bydd y gynhadledd yn archwilio cyferbyniadau a synergeddau, cysylltiadau presennol a'r potensial i gydweithredu a chreu cysylltiadau newydd. Croesewir cynigion ar ffurf papurau academaidd 20 munud o hyd neu ar gyfer nifer cyfyngedig o weithdai cyfranogol awr o hyd a fydd yn arbrofi gyda gwahanol fathau o gyfieithu ar y cyd. Yn y naill achos neu'r llall, gellir mynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol:

  • Sut mae cymunedau barddonol yn cael eu ffurfio ar draws ieithoedd a diwylliannau? Pwy sy'n cael eu cynnwys neu eu heithrio, a pha strwythurau sy'n eu cefnogi?
  • Pa rôl mae cyfieithu yn ei chwarae yn dad-drefedigaethu barddoniaeth, neu’n ymestyn hegemoni diwylliannol neodrefedigaethol? Ym mha ffyrdd gall cyfieithu feithrin solidariaeth â brwydr a gwrthsafiad pobl dduon a brodorol a magu undod rhyngddynt?
  • Sut mae cyfieithu yn cyfrannu at yr amrywiaeth o rwydweithiau barddonol o ran hil, rhywedd a diwylliannau lleiafrifol?
  • Pa syniadau neu werthoedd sy’n cael eu tarfu arnynt yn y broses o gyfieithu?
  • Beth yw gwerth cysylltiadau rhyngwladol barddoniaeth a sut y gellir eu cynnal mewn cyfnod o argyfwng ecolegol ac economaidd?
  • Sut y gellir gosod barddoniaeth Saesneg mewn deialog mwy cyflawn â'r ieithoedd sydd o’i chwmpas?
  • Sut mae barddoniaeth amlieithog yn ail-ddychmygu daearyddiaeth hunaniaeth? Beth yw ei pherthynas â chyfieithu?
  • Pa ddulliau ymarfer wrth gyfieithu barddoniaeth a allai arwain at gynnal sgyrsiau newydd?
  • Beth yw cyfraniad ffurfiau arbrofol ar farddoniaeth a chyfieithu at gyfnewid dros yr Iwerydd a sut maent yn elwa ohono?
  • Pa strwythurau sy'n galluogi cyfnewid amlieithog dros yr Iwerydd? Sut y gellid eu datblygu?
  • Beth yw'r gwahaniaethau a'r gorgyffwrdd rhwng barddoniaeth a chyfieithu fel dulliau ymarfer? Sut y gellir deall y rhain trwy gyfeirio at ffigwr y 'bardd-gyfieithydd'?

Cynigion: Anfonwch grynodeb o 300 gair erbyn 15 Tachwedd 2021 at z.skoulding@bangor.ac.uk a d.eltringham@sheffield.ac.uk

Cofrestru:Cofrestru ar gyfer y gynhadledd: £75 am dri diwrnod, i gynnwys cinio a lluniaeth.

Mae cofrestru am ddim i fyfyrwyr ôl-raddedig / Digyflog